Skip to main content

Port Health & Food Safety and Standards Roles

Employer
Pembrokeshire County Council
Location
Pembrokeshire (Sir Benfro)
Salary
£35,235 - £39,513 + ‘Gateway Payment’ of £3,000
Closing date
8 Apr 2025
View more categoriesView less categories
Sector
Food Safety, Port Health
Function
EH Practitioner
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Exciting Career Opportunities in Environmental Health

Pembrokeshire County Council – Port Health & Food Safety and Standards Roles

Are you an experienced Environmental Health professional looking for a rewarding role in a stunning part of the UK? Pembrokeshire County Council is seeking highly motivated individuals to join our Port Health Team and Food Safety and Standards Team. These roles play a vital part in protecting public health, ensuring food safety, and maintaining high environmental standards across our ports and food businesses.

Why Join Us?

Competitive Salary: £35,235 - £39,513 Additional ‘Gateway Payment’ of £3,000 Supplementary payments for weekend and unsocial hours (Port Health role) Comprehensive benefits package, including: Generous annual leave (26-31 days plus public holidays) Local Government Pension Scheme (17.7% employer contribution) Flexible working opportunities Career development support Occupational Health and Wellbeing resources Relocation package for eligible candidates Available Roles:

Environmental Health Officer (Port Health)

Work across the ports of Milford Haven, Pembroke, and Fishguard, contributing to biosecurity, food safety, and infectious disease control. Responsibilities include:

Conducting vessel inspections for sanitation and disease control Managing statutory nuisance complaints within port areas Ensuring food safety compliance in the fish and shellfish sectors Performing Border Control Post inspections for imported food safety This role operates on a shift system covering 7 days a week, 365 days a year, with additional payments for weekend and unsocial hours.

Environmental Health Officer (Food Safety & Standards)

Play a key role in ensuring food produced and sold in Pembrokeshire is safe and compliant. Responsibilities include:

Conducting food safety inspections across diverse businesses Investigating food complaints and foodborne illnesses Sampling food for microbiological and safety analysis Advising businesses on compliance and enforcement actions About You

Degree in Environmental Health (BSc/MSc) and CIEH registration, or a relevant food safety qualification (e.g., Higher Certificate in Food Control) Experience in food law enforcement, with a background in port health, communicable disease control, or nuisance investigations desirable Strong communication, investigative, and problem-solving skills A valid driving licence and access to a vehicle for business use Welsh language skills desirable If you're ready to make a difference in public health, food safety, and environmental protection, apply today!

🔗 Apply now and help shape a healthier future for Pembrokeshire!

Jobs and Careers - Pembrokeshire County Council

Cyfleoedd Gyrfa Cyffrous ym maes Iechyd yr Amgylchedd
Cyngor Sir Penfro – Rolau Iechyd a Diogelwch a Safonau Bwyd Porthladdoedd

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes Iechyd yr Amgylchedd sy'n edrych am rôl werth chweil yn yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y Deyrnas Unedig? Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Iechyd Porthladdoedd a'n Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd. Mae'r rolau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd, sicrhau diogelwch bwyd, a chynnal safonau amgylcheddol uchel ar draws ein porthladdoedd a'n busnesau bwyd.

Pam ymuno â ni?

Cyflog: £35,235 - £39,513 ‘Taliad Porth’ ychwanegol o £3,000 Taliadau atodol ar gyfer penwythnosau ac oriau anghymdeithasol (rôl Iechyd Porthladdoedd) Pecyn buddion cynhwysfawr, gan gynnwys: Gwyliau blynyddol hael (26-31 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus) Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cyfraniad cyflogwr o 17.7%) Cyfleoedd gweithio hyblyg Cefnogaeth datblygu gyrfa Adnoddau iechyd a llesiant galwedigaethol Pecyn adleoli ar gyfer ymgeiswyr cymwys Rolau sydd ar gael:

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Iechyd Porthladdoedd)

Ymunwch â’n Tîm Iechyd Porthladdoedd cyfeillgar a chefnogol a chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ystod o swyddogaethau iechyd yr amgylchedd, sy’n canolbwyntio ar borthladdoedd Aberdaugleddau, Penfro ac Abergwaun, gan gyfrannu at y system ryngwladol o reoli clefydau heintus, bioddiogelwch ar ein ffiniau, a lliniaru niwed posibl ac achosion niwsans a allai effeithio ar gymunedau lleol.   

Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys asesu cychod yn erbyn canllawiau glanweithdra llongau rhyngwladol, rheoli clefydau trosglwyddadwy ac ymchwilio i gwynion niwsans.  Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cydymffurfedd â diogelwch a safonau bwyd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r sectorau pysgod a physgod cregyn, yn ogystal â chyfrannu at orfodi diogelwch a safonau bwyd ar draws y sir yn ehangach. Byddwch hefyd yn sicrhau bod unrhyw fewnforion anghyfreithlon o fwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n peri risg o glefyd egsotig i anifeiliaid (e.e. Clwy Affricanaidd y Moch (ASF) a Chlwy'r Traed a'r Genau) yn cael eu trin yn effeithiol lle y’u canfyddir.

Yn dilyn datblygiad a ragwelwyd o ran swyddi rheoli ffiniau, bydd y rôl yn esblygu i gynnwys gwiriadau corfforol, dogfennol a hunaniaeth ar gynhyrchion a fewnforir i sicrhau mai dim ond cynhyrchion ‘diogel i’w bwyta’ sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, a chyflawni rôl yr Arolygydd Pysgod Swyddogol a chynorthwyo Milfeddygon Swyddogol gyda gwiriadau perthnasol ar gynhyrchion a fewnforir. 

Mae'r rôl hon yn gweithredu ar system sifftiau sy'n cwmpasu 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, gyda thaliadau ychwanegol am weithio oriau ar benwythnosau ac oriau anghymdeithasol.

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Diogelwch a Safonau Bwyd)

Chwaraewch ran allweddol yn sicrhau bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu a’i werthu yn Sir Benfro yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau cymwys, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a hawliau a disgwyliadau defnyddwyr.

Ymhlith y cyfrifoldebau mae’r canlynol:

Cynnal arolygiadau diogelwch a safonau bwyd ar draws busnesau amrywiol, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, ystod o safleoedd cymeradwy, a busnesau sy'n rhan o'n sector twristiaeth blaenllaw. Ymchwilio i gwynion am fwyd a salwch sy'n cael ei gario mewn bwyd Samplu bwydydd i'w harchwilio a'u dadansoddi Cynghori busnesau ar gydymffurfedd, gan gynnwys darparu cyngor ar ymweliadau a gynhelir am ffi a chymryd rhan mewn gweithgareddau partneriaeth awdurdod sylfaenol pan fo'n briodol. Amdanoch chi

Gradd mewn Iechyd yr Amgylchedd (BSc/MSc) a chofrestriad â Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH), neu gymhwyster diogelwch bwyd perthnasol (e.e. Tystysgrif Uwch mewn Rheoli Bwyd) Byddai profiad o orfodi cyfraith bwyd ac yn ddelfrydol rheoli clefydau trosglwyddadwy, ynghyd â phrofiad ym maes iechyd porthladdoedd ac ymchwilio i niwsans statudol o werth i’r rôl iechyd porthladdoedd. Sgiliau cyfathrebu, ymchwilio a datrys problemau cryf Trwydded yrru ddilys a mynediad i gerbyd at ddefnydd busnes Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol Os ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth i iechyd y cyhoedd, diogelwch a safonau bwyd, a diogelu'r amgylchedd, gwnewch gais heddiw!

🔗 Gwnewch gais nawr a helpu i lunio dyfodol iachach i Sir Benfro!

Swyddi a Gyrfaoedd - Cyngor Sir Benfro

 

 

 

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert