Skip to main content

This job has expired

Public Protection Officer + Senior Technical Officer

Employer
Denbighshire County Council
Location
Wales
Salary
£29,577 - £35,745 & £29,577 - £32,234
Closing date
15 Jun 2021

Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Iechyd yr Amgylchedd – Diogelwch Bwyd)

Lleoliad: Grade 8/9 - £29,577 - £35,745 pro rata       

Oriau: 37 yr wythnos

Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2022

Dyddiad Cau: 15 Mehefin 2021

Uwch Swyddog Technegol (Iechyd yr Amgylchedd – Rheoli Llygredd)

Lleoliad: Grade 8 -  £29,577 - £32,234

Oriau: 37 yr wythnos

Parhaol

Dyddiad Cau: 22 Mehefin 2021

Dyma gyfle unigryw a phrin i ymuno ag Adran Gwarchod y Cyhoedd brysur a phroffesiynol sy’n perfformio’n dda. Mae gan Sir Ddinbych arfordir bendigedig, treftadaeth gyfoethog a threfi gwledig hyfryd mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch lle byddwch yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth hylendid bwyd, safonau bwyd ac iechyd a diogelwch mewn eiddo bwyd. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o waith yn cynnwys arolygiadau eiddo a raglennir, gwaith prosiect yn ogystal â gwaith adweithiol fel ymchwilio i gwynion a hysbysiadau am glefydau heintus.

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Technegol profiadol ar gyfer ein Tîm Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd. Yn ddelfrydol, bydd gennych arbenigedd mewn acwsteg gan y bydd y rôl yn cynnwys rhoi cyngor technegol ar ymgynghoriadau cynllunio a thrwyddedu. Byddai’n fanteisiol hefyd pe bae gennych brofiad mewn Trwyddedu Amgylcheddol ac ansawdd aer. Byddwch hefyd yn ymwneud ag ymchwilio’n adweithiol i gwynion niwsans statudol.

Rydym eisiau i’r bobl gywir ymuno â’n tîm Gwarchod y Cyhoedd prysur er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau ein preswylwyr a’n hymwelwyr. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn ddiwyd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, byddwch yn gweithio’n wych fel rhan o dîm a bydd gennych y parodrwydd a’r gallu i gychwyn camau gorfodi ffurfiol lle bo angen.

Gwneir y penodiadau hyn yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol.

Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swyddi, ffoniwch un o’n Rheolwyr Busnes Gwarchod y Cyhoedd: Glesni Owen (Diogelwch Bwyd) 01824 706449 neu Andrew Lord (Llygredd) 01824 706087.

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais er mwyn cael eu hystyried. Yn anffodus, ni allwn ateb pob cais. Os nad ydych chi wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i'r dyddiad cau, fe ddylech chi gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i Gyfle Cyfartal a'i Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg; sylwch na fydd unrhyw ffurflenni cais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg.

Public Protection Officer (Environmental Health – Food Safety)

Salary: Grade 8/9 - £29,577 - £35,745 per annum       

Hours: 37 hours per week Temporary initially until 31st March 2022

Closing Date: Date 15th June 2021

Senior Technical Officer (Environmental Health – Pollution Control)

Salary: Grade 8 -  £29,577 - £32,234

Hours:   37 per week - Permanent

Closing Date: Date 22nd June 2021

This is a unique and rare opportunity to join a busy, professional and high performing Public Protection Department. Denbighshire boasts stunning coastline, rich heritage, quaint rural towns within an area of outstanding natural beauty.

We have an exciting opportunity in the Food & Health and Safety Team where you will be responsible for the enforcement of food hygiene, food standards and health and safety legislation within food premises. This includes a wide range of work including programmed inspections of premises, project work as well as reactive work such as investigation of complaints and infectious disease notifications.

We are looking for an experienced Senior Technical Officer for our Pollution and Public Health Team. Ideally you will have a specialism in acoustics as the role will involve providing technical advice on planning & licensing consultations. It would also be advantageous if you have experience in Environmental Permitting and air quality. You will also be involved in the reactive investigation of statutory nuisance complaints.

We want the right people to join our busy Public Protection team and make a real difference to the lives of our residents and visitors. You will need to be enthusiastic, motivated and diligent. You will have excellent communication & interpersonal skills, be a great team player and have the willingness and ability to initiate formal enforcement action where necessary.

This appointment is subject to the provision of satisfactory references.

If you would like to discuss any aspect of the posts, please call one of our Public Protection Business Managers:  Glesni Owen (Food Safety) 01824 706449 or Andrew Lord (Pollution) 01824 706087.

Candidates must complete our application form to be considered. We regret that we are unable to reply to all applications. If you have not received a reply within three weeks of the closing date, you must assume that you have not been short listed for interview.

Denbighshire County Council is committed to Equal Opportunities and its Welsh Language Standards. We welcome applications in the Welsh Language and application forms received in the Welsh Language will not be treated less favourably than an application form submitted in English.

 

 

 

 

 

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert